Click to Choose Language

European
Picture 
Book
Collection

EPBC Home
Background to Project
Teachers' Resource Book
EPBC Books
Ordering Details
Chatline
EPBC Contacts
Web Site Links
National Centre for Research in Children's Literature
School Education Training course (ESET):
mairi.JPG (15077 bytes)
Rationale - Re-telling - Translation - Activities - Reflection

Gwlad:  Portiwgal
Iaith:  Portiwgaleg
Teitl:  A ovelha negra (Dafad ddu)
Awdur:  Malaquias C.
Cyhoeddwr: Texto Editora (1988)
Dewiswyd gan:  Isabel Vila Maior
Athro, Escola Superior de Educaçao, Apt. 125, 7300 Portalegre, Portiwgal.

Rheswm dros ddewis y llyfr :
- Ansawdd y lluniau
- Cysylltiad rhwng sefyllfa gyffredin (edrych ar yr awyr a dychmygu siapiau, a ffantasi).
- Stori benagored yn cael ei chyflwyno fel problem i'w datrys, trwy sgwrs rhwng oedolyn a phlentyn os oes modd.

Crynodeb:
Mae adroddwr y stori yn gweld clwstwr o gymylau yn yr awyr fel diadell o ddefaid sy'n cael eu chwythu'n bwyllog tua'r ddaear ac yn dechrau pori mewn cae .
Yn sydyn, mae dafad ddu yn glanio.   Beth sy'n digwydd nesaf? Y geiriau olaf yw '... Ac wedyn?' Does dim wedi'i ysgrifennu ar dudalen olaf y llyfr. Mae'r awdur yn siarad â rhieni ac addysgwyr gan ddweud pa mor bwysig yw ffantasi wrth dyfu i fyny.   Mae'n eu gwahodd i ymuno â phlant i ddychmygu beth sy'n digwydd nesaf.

Cyfieithiad:
Fe ddigwyddodd yn gynnar yn y bore.   Roedd yr haul ar fin codi ac roedd cymylau ar wasgar yn yr awyr, fel pe bai'n llond cae o ddefaid.
Wrth edrych yn ofalus arnyn nhw, fe welais i fod gan bob un ohonyn nhw wyneb, a llygaid bach hefyd.
Bron heb iddyn nhw sylwi, fe ddechreuon nhw rolio i lawr a chwympo'n araf trwy'r awyr fel pe bai ganddyn nhw barasiwt bob un.
Cyn gynted ag y glanion nhw, fe ddechreuon nhw fwyta. Wrth gwrs, roedd eisiau bwyd arnyn nhw.
Roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd diwedd y stori ond yna, yn sydyn ac yn swnllyd, fe welais i'r ddafad ddu yn dod i lawr.
... Ac yna?

(working translation for educational purposes only)

Gweithgareddau i'w gwneud yn yr ysgol:
1. Gofynnwch i'r plant adrodd y stori gan ddilyn y lluniau. Yna, darllenwch y stori iddyn nhw a chymharu'r ddwy fersiwn.
2. Gofynnwch i'r plant ddychmygu beth sy'n digwydd nesaf a gorffennwch y stori, naill ai trwy dynnu

lluniau, neu trwy ysgrifennu, neu'r ddau beth.
3. Gofynnwch i'r plant adrodd y stori o safbwynt y defaid a syrthiodd o'r awyr, gan gadw at drefn y digwyddiadau a'r naratif yn y stori wreiddiol.
4. Syrthiodd y defaid mewn ardal wledig ger pentref bach ym Mhortiwgal. Gofynnwch i'r plant ganfod cymaint ag y gallant am y wlad hon ac ysgrifennu deialog rhwng dau bentrefwr a welodd y defaid yn syrthio.   Efallai y gallech recordio hyn fel drama radio.
5. Trafodwch y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng defaid duon a defaid gwynion. (Gallai hyn arwain at drafodaeth am yr hawl i fod yn wahanol, gwahaniaethau diwylliannol, hiliaeth ac ati.)

Pethau i'w hystyried: Soniwch am gwrdd â phlant o wlad arall. Pa bethau a'ch helpodd / a allai eich helpu i ddod ymlaen yn dda gyda nhw.

Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières sydd ar gael gan tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk


The NCRCL website is hosted by Roehampton University

ncrcl/ February 2005