|
Rheswm
dros ddewis y llyfr:
Mae graffeg y llyfr lluniau hwn yn drawiadol iawn. Defnyddir
du a lliwiau neon, oeraidd, ymosodol (sy'n ein hatgoffa o glip ar y teledu).
Mae'r llyfr yn mynd ymhell y tu hwnt i fyd cyn-ysgol traddodiadol
ei genre gan ei fod yn addas ar gyfer plant ysgol, pobl ifanc ac oedolion.
Mae 'Gwrthryfel yr Anifeiliaid' yn addas iawn i'w gynnwys mewn casgliad
o lyfrau lluniau Ewropeaidd gan ei fod yn adlewyrchu, mewn ffordd wreiddiol,
ffordd o feddwl sy'n amlwg iawn yn y diwylliant Ewropeaidd heddiw.
Cyflwynir y llyfr ar ffurf telediad ac mae'n adrodd stori sy'n ymdrin
â dylanwad cymhleth byd cyhoeddusrwydd a'r cyfryngau ar syniadau,
anghenion a breuddwydion pobl heddiw. Mae'r ddameg wych hon, a
seiliwyd ar stori draddodiadol 'Cerddorion Teithiol' y Brodyr Grimm, yn
sôn am brofiadau pobl yn ein cymdeithas amlgyfryngol, brynwriaethol.
Mae'r stori, a leolir mewn dinas fawr Orllewinol, sy'n cael ei darlunio
mewn ffordd dra-realistig, yn sôn am unigolyn yn gwrthryfela ac
yn ymwrthod â chael ei ecsbloetio a'i fradychu. Felly, mae'r stori
antur glasurol hon ar ei newydd wedd yn ymdrin â dianc, dadrithiad
a chwalu syniadau am realaeth a rhyddid. Mae'r ‘Cerddorion Teithiol' yn
fan cychwyn annisgwyl i ystyried a chwestiynu ein cymdeithas gan ysgogi
darllenwyr ifanc i fod yn fwy ymwybodol o ddylanwad cyhoeddusrwydd a'r
cyfryngau electronig.
Crynodeb:
Un noson, mae pedwar anifail hysbysebu anfodlon eu byd - panda
WWF, crocodeil sy'n hysbysebu dillad chwaraeon, pengwin sy'n hysbysebu
oergelloedd a thylluan sy'n hysbysebu sbectols haul – yn penderfynu gadael
eu bywyd ym myd hysbysebu a mynd i Disneyland gan obeithio gwireddu eu
breuddwydion o fod yn sêr ym myd cerddoriaeth glasurol, pop, roc
neu ddawns. Ar eu ffordd, maen nhw'n torri ffenest ac yn mynd i mewn i
stiwdio deledu fawr gan achosi cryn dipyn o drafferth, nid yn gymaint
trwy fod yno, ond am darfu ar raglen deledu ...
Mae cyfarwyddwr y stiwdio'n perswadio'r anifeiliaid poblogaidd i arwyddo
contract gyda'r cwmni teledu gan addo llwyddiant ac enwogrwydd iddynt
ar unwaith. Serch hynny, dim ond y panda sy'n penderfynu peidio â
mynd am yrfa yn y cyfryngau; mae ef eisiau chwilio am fywyd go iawn.
Mae'n diflannu y tu ôl i'r setiau teledu ac yn ei gael ei hun ar
ffordd dywyll. Yn y llun olaf, mae'r artist annibynnol, unig yn gwylio'i
dri ffrind yn chwarae ac yn canu ar dair sgrîn deledu trwy ffenest
siop... Ond onid yw yntau, hefyd, ar y sgrîn?
Cyfieithiad (Tudalennau 1-6):
Ers blynyddoedd lawer, roedd y Dylluan gydwybodol wedi bod yn helpu i
hyrwyddo sbectol Lucas Tute ym mhedwar ban byd ond roedd y cwmni'n arallgyfeirio
ac yn awyddus iddi hysbysebu llyfrau hefyd. Roedd hyn yn ormod i'r Dylluan
a oedd yn teimlo'i bod hi'n gweithio'n rhy galed am gyflog rhy fach yn
barod. Roedd hi wedi cael llond bol. 'Mae'n bryd i mi roi fy hunan yn
gyntaf' meddyliodd. 'Rwy am adael byd hysbysebu a dod o hyd i waith arall.'
Fe wyddai'n union beth i'w wneud. Roedd am ddilyn llwybr Cerddorion
Bremen ond, er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn iawn, fe benderfynodd ailddarllen
stori'r Brodyr Grimm.
Ar ôl gorffen y stori, sylweddolodd y Dylluan y byddai angen help
arni. 'Os galla i ddod o hyd i ychydig o ffrindiau, fe allen ni redeg
i ffwrdd gyda'n gilydd a chael bywyd gwell. Mae'n siwr nad fi yw'r
unig un sydd wedi cael llond bol ar fod yn llun mewn hysbyseb'. Felly,
edrychodd o gwmpas y swyddfa, anadlu'n ddwfn a gweiddi 'Ffrindiau! Anifeiliaid!
Delweddau Hysbysebion! Gwrandewch! Mae gen i syniad a allai'ch helpu i
gael bywyd gwell.'
O ddrôr isaf rhyw ddesg, dyma lais cysglyd. 'Hoi, beth sy arnat
ti? Wyddost ti ddim mai cyn hanner nos yw'r amser gorau i gysgu? Weithiau,
mae'n drueni bod rhai anifeiliaid yn gallu siarad', cwynodd y panda Achub
y Byd.
'Mae hynny'n hollol anghywir', atebodd y Dylluan, 'Heb y gallu i siarad,
alli di ddim rheoli dy dynged dy hun. Rwyt ti wedi bod yn cynrychioli'r
mudiad Achub y Byd ers cyhyd nes bod perygl dy fod wedi anghofio sut i
dy achub dy hun. Pam na roi di gynnig ar sefyll ar dy draed dy hun a dod
gyda mi?'
'I ddweud y gwir,' ochneidiodd y Panda, 'rwy wedi bod ychydig yn ddigalon
yn ddiweddar. Ddoe ddiwethaf fe glywais i'r cyfarwyddwr yn dweud wrth
ei hysgrifenyddes ei bod wedi dechrau blino ar yr ‘hen banda di-raen ‘na'
‘, ac fe ddaeth dagrau i'w lygaid.
'Mae'r ateb yn amlwg ', sibrydodd y Dylluan. 'Allwn ni ddim dal i esgus
bod ein bywydau'n wych.
Mae'n bryd i ni fynd i rywle arall i chwilio
am ein ffortiwn.'
'Hei', taranodd rhywun. 'Os ydych chi'n sôn am ddianc, rydw innau'n
dod hefyd!'
Cododd gên crocodeil o'r bwrdd darlunio.
'Mae fy nghwmni i'n ceisio cael gwared â mi i ac rwy'n credu eu
bod nhw am fy ngwerthu i cyn gynted ag y gallan nhw. Rwy wedi bod yn hysbysebu
crysau ers ugain mlynedd ond does ganddyn nhw ddim parch at yr holl waith
rydw i wedi'i wneud iddyn nhw.'
'Does dim diolch i'w gael yn y byd 'ma', cytunodd y Dylluan. ' Fe awn
ni gyda'n gilydd.'
'Ie, ond beth yw'r Disiland 'ma?' holodd y Panda'n nerfus. 'Beth os mai
dim ond tric hysbysebu yw hwnnw hefyd?' 'Nage siwr' meddai'r Dylluan.
'Mae Disneyland yn lle gwych ac fe fyddwn ni'n gartrefol iawn yno.
Bydd pobl yn ein gwerthfawrogi ni o'r diwedd.'
Cytunodd y lleill ac fe wnaed y trefniadau i ddianc y noson honno.
'Haws dweud na gwneud', meddai'r Panda'n bryderus. 'Beth a ddaw ohonon
ni mewn lle dieithr a neb yn ein nabod ni? Sut y cawn ni fwyd a
rhywle i fyw?' 'Mae popeth yn y llyfr ‘ma,' atebodd y Dylluan yn hyderus.
'Wrth gwrs, bydd yn rhaid i mi newid ychydig bach ar y stori … Beth am
i ni fynd i Disneyland i fod yn gerddorion?' 'Syniad gwych', gwichiodd
y pengwin hysbysebu oergelloedd o boster ar y wal.
(working translation for educational purposes only)
Gweithgareddau
i'w gwneud yn yr ysgol:
1) Cymharu dwy stori
Darllenwch 'Gwrthryfel yr Anifeiliaid' a stori Grimm, 'Y Cerddorion Teithiol'
gyda'r plant a'u helpu i gymharu'r chwedl draddodiadol â'r fersiwn
fodern. Dylid sylwi ar yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol o ran cynnwys
ac arddull er mwyn canfod a thrafod y gwahaniaethau yn neges y ddwy fersiwn
o'r un stori.
2) Uned 'athronyddol' am y syniad o freuddwydion a realiti (Wrth gwrs,
bydd y lefel yn dibynnu ar oedran y plant)
Ystyriwch y cwestiynau isod:
Beth yw 'realiti' yr anifeiliaid hysbysebu? Beth yw eu breuddwydion?
Pa mor real yw'r breuddwydion y maen nhw'n eu gwireddu, diolch i'r contract
gyda'r cwmni teledu?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y realiti a geir wrth i'r tri anifail ddod
yn sêr ar y teledu a'r Panda sy'n gadael byd y cyfryngau torfol
yn fwriadol?
Beth yw'r ‘bywyd go iawn' y mae'r Panda'n chwilio amdano?
A yw'r Panda wedi dod o hyd i ‘fywyd go iawn'?
Beth yw ‘bywyd go iawn' i chi? Beth yw realiti, a beth yw realiti rithwir
i chi?
3) Drama Creadigol
Gofynnwch i'r plant wisgo fel un o'r pedwar anifail hysbysebu ac actio'r
antur y maent yn ei byw yn llyfr lluniau Müller/Steiner, gan chwilio
am ‘fywyd go iawn' a cheisio gwireddu eu breuddwydion.
Gofynnwch i'r plant gynrychioli cymeriad o'u dewis nhw ac actio sut y
maent yn ceisio gwireddu eu breuddwyd bersonol nhw .
Pethau
i'w hystyried: A all ffantasi adlewyrchu realiti?
Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â
llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières
sydd ar gael gan
tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk
|