Click to Choose Language

European
Picture 
Book
Collection

EPBC Home
Background to Project
Teachers' Resource Book
EPBC Books
Ordering Details
Chatline
EPBC Contacts
Web Site Links
National Centre for Research in Children's Literature
School Education Training course (ESET):
ib-olsen.JPG (11869 bytes)
Rationale - Re-telling - Translation - Activities - Reflection


Gwlad:  Yr Eidal
Iaith:  Eidaleg
Teitl: Bruno lo zozzo (Bruno brwnt)
Awdur:  Simone Frasca
Cyhoeddwr: Piemme (1995)
ISBN:   88-384-3411-5
Dewiswyd gan:  Carla Poesio
Ymgynghorydd Llyfrau Plant, Via Inghirami 22, 50131 Fflorens, yr Eidal.

Rheswm dros ddewis y llyfr:
Gellir dadlau bod y brif thema, sef ffrind anweledig, yn un o themâu mwyaf cyffredin a diddorol seicoleg plant a llenyddiaeth plant mewn llawer o wledydd.

Crynodeb:
Mae'r plot yn cyflwyno cyfoeth o gymeriadau sydd, yn eu ffordd eu hunain, yn apelio at ddarllenwyr ifanc, yn enwedig o safbwynt hunaniaeth – fel yn achos ymddygiad rhyfedd Bruno, h.y. ei hwyl anarchaidd, ei wrthwynebiad i daclusrwydd a'r ffaith ei fod mor anhygoel o farus.

Cyfieithiad:
p6 Doedd Bruno ddim yn hoffi cael bath.
p7 Roedd yn well ganddo ddringo coed, dod o hyd i lwybrau cudd a chnoi gwm.
p8 Ar ôl hynny i gyd, roedd eisiau bwyd yn ofnadwy arno.
p9 Felly, penderfynodd redeg adref i gael rhywbeth bach i'w fwyta: 8 tafell o fara a Nutella, 3 gwydraid o sudd oren, 7 llond paced o fisgedi, llond jar o mayonnaise a 3 ansiofi – ond nid yn y drefn honno
p10 "Bruno!" – gwaeddodd ei fam - "rwyt ti'n hen fochyn barus! Mae'n siwr na wnest ti hyd yn oed olchi dy ddwylo!"
p11 Stopiodd Bruno fwyta am funud, rhoddodd gip sydyn ar ei ddwylo ac ailddechrau sglaffio.
p12 Roedd gan Bruno dri ffrind: Daniele, Irene ac Elisa. Un diwrnod, ffoniodd Irene ef i ddweud wrtho ei bod wedi cael ffrind anweledig.
p13 "Draig sy'n chwythu tân ydi o ac mae ganddo fo gynffon feddal iawn. Fe ddylet ti ei weld! Mae'n gallu chwythu cylchoedd mwg, fel mae Dad yn ei wneud wrth smocio!"
p14 "Ac mae o'n gallu hedfan, ambell waith!"
p16 Drannoeth, ffoniodd Daniele ac roedd yntau wedi cynhyrfu'n lân: "Fe ddylet ti weld fy ffrind anweledig i! Cowboi yw e ac mae bob amser yn taro'i darged!"
p17 "Gydag un ergyd, mae'n gallu taro bwnsiaid o blu ar ben Marchog canoloesol (hynny yw, ffrind anweledig Elisa) er ei fod â'i gefn ato!
p18 Y prynhawn hwnnw, aeth Irene, Daniele ac Elisa i dy Bruno i gael rhywbeth bach i'w fwyta ac fe fuon nhw'n parablu ac yn parablu am eu ffrindiau anweledig. "A beth amdanat ti, Bruno?" – gofynnodd y tri ar yr un pryd, ‘pam nad oes gennyt ti ffrind anweledig?"
p19 " Mae gen i ffrind anweledig!" – atebodd Bruno - "Rwy'n gallu dod o hyd iddo pryd bynnag y bydda i'n dymuno!"
p20 Ond doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i gyfaill a oedd yn gallu chwarae hoff gêmau Bruno.
p21 Roedd anghenfil Frankenstein yn ardderchog yn y ffilmiau ond doedd e ddim yn gallu dringo coed. "Dyna'r seithfed goeden i ti ei thorri!" meddai Bruno "Dyna niwsans! Rwyt ti'n fwy trafferthus na ‘nghyfnither i!"  
p22 Yna dewisodd Pteradon.   Roedd lliw coch llachar hardd ar hwnnw ond, ond er iddo wneud ei orau glas, doedd e ddim yn gallu mynd i lawr y llwybr cudd.
p23 Ac, am Ymerawdwr y Galaethau, wel, doedd e ddim yn gallu chwythu swigod gwm cnoi, er i Bruno wneud ei orau i'w ddysgu. Yna, un noson, fe ddigwyddodd rhywbeth.   Cododd Bruno o'i wely i fynd i'r toiled.
p25 Cyn gynted ag y rhoddodd ei ben trwy ddrws ei ystafell, fe welodd bod y landin yn llawn angenfilod. Angenfilod arferol y nos oedden nhw yn disgwyl am eu cyfle i ymosod arno.
p26 Roedd hyd yn oed anghenfil y selar wedi ymuno â nhw.   Roedd hwnnw'n falch iawn o'r cyfle i ddangos ei smotiau gwyrdd hardd iddo.
p27 Penderfynodd Bruno fynd i'w ystafell a gwlychu'r gwely (unwaith eto!) pan...
p28 Gyrhaeddodd Giovanni!!! Rhedodd i lawr y landin gan sgrechian!
p29 Roedd yr angenfilod wedi cael cymaint o ofn nes iddyn nhw redeg i ffwrdd nerth eu traed!
p30 "Pwy wyt ti?" – gofynnodd Bruno. " Giovanni yw fy enw.   Mochyn ydw i."
p31 "Rwy'n hoffi siocled a chyn gynted ag y gwela i bot jam, rwy'n rhoi fy nhrwyn ynddo fe! Rwy'n hoffi neidio mewn pyllau o fwd, chwilota mewn sbwriel a rhowlio yn y borfa!"
"Beth am ddwr?" – holodd Bruno.
"Beth yw dwr?" gofynnodd Giovanni.
p32 "Rwy mor falch fy mod wedi cwrdd â ti!" - meddai Bruno - "Hoffet ti fod yn ffrind anweledig i mi?"
"Dyna pam yr ydw i yma!" – rhochiodd Giovanni, yn falch iawn ohono'i hunan.
p32 Daeth Mam a Dad i'r golwg wrth ddrws yr ystafell ymolchi, lle'r oedd Bruno'n eistedd yn hapus ar ei boti.
p34 Roedd Bruno a Giovanni yn ffrindiau mawr. Doedd Giovanni ddim yn anodd ei blesio. Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda Bruno.
p35 Cyn hir, fe ddechreuodd e ddysgu gêmau newydd i B runo, ac roedd Bruno'n hoffi'r gêmau hynny'n fawr iawn.
p36 Roedd Bruno'n falch iawn o'i ffrind newydd ac fe benderfynodd ei ddangos i'w ffrindiau.   Un bore, aeth ag e i dy Irene i gael rhywbeth bach i'w fwyta.
p37 Ond, er eu bod nhw'n edrych yn garedig, fe ddywedodd ffrindiau Bruno bethau eithaf cas am Giovanni.
p38 "Beth yw'r budreddi yma?"- holodd Elisa. "Ych-a-fi, dyna ddrewdod!" – meddai Irene. "Hwnna yw dy ffrind anweledig di?" – gofynnodd Daniele gan edrych i lawr ei drwyn arno.
p39 Felly, roedd yn rhaid i Bruno redeg i ffwrdd gyda Giovanni, cyn i'r ddraig oedd yn anadlu tân rostio pen ôl y mochyn.
p40 Roedd Bruno'n hoff iawn o Giovanni, ond nid peth hawdd oedd cadw mochyn yn y ty, yn enwedig a hwnnw'n fochyn anweledig!
p41 Yn ystod y dydd, cyn gynted ag y trodd Mam ei phen, fe wnaeth Giovanni bethau drwg ofnadwy. A phwy gafodd y bai?
p42 Yn ystod y nos, pan oedd Bruno'n cysgu, aeth Giovanni i lawr i'r gegin. Dringodd i ben cadair (gan mai coesau byr oedd ganddo), agorodd y cwpwrdd a bwyta bisgedi a jam.
p43 A, gan nad oedd hynny'n ddigon, fe lwyddodd i agor yr oergell a llyncu poteleidiau o sudd oren a coca cola. A phwy gafodd y bai yn y bore?
p44 Allai Bruno ddim cario ymlaen fel hyn.   Bu'n rhaid iddo gael gwared â'i ffrind a'i gyfnewid am rywbeth mwy syber.
p46 Un bore, fe gyflwynodd ei ffrindiau i foi newydd a oedd â tua deuddeg o Arfau Chwalu Galaethau a rhyw ddwsin o rocedi proton.
p47 "Mae'n wych!" – meddai Daniele   - "Beth yw e?"
"Wel " - atebodd Bruno - "Maluriwr Sêr. Mae'n gallu chwalu galaeth a bwyta hufen iâ ar yr un pryd" (Ond roedd yn hawdd gweld bod Bruno'n dal i feddwl am rywun arall). "Nawr bod gan bawb ohonon ni ffrind anweledig go iawn " – awgrymodd Irene -" fe allen ni fynd ar antur "
"Pam lai?" – ychwanegodd yn frwd - "Beth am fynd i dy'n llawn ysbrydion!"
p48 Doedd neb yn byw yn y ty.
p49 Roedd llawer o bobl yn taeru eu bod wedi clywed swn rhyfedd yno ac roedden nhw wedi gweld goleuadau, traed blewog anifeiliaid, llygaid yn sgleinio a phethau felly.
p50 Yn wir, cyn gynted ag yr aeth y plant i mewn, fe gaeodd y drws yn glep ar eu hôl,
p51 roedd y gwynt yn rhuo a'r grisiau'n gwichian...
p52 Yna, yn sydyn, fe ddechreuodd y ddraig a oedd yn chwythu tân lefain, fe aeth y cowboi dewr a'r Maluriwr Sêr i guddio y tu ôl i gadair ac roedd y marchog canoloesol yn gweiddi am help
p54 Ac fe ddechreuodd y pedwar ohonyn nhw grynu, mynd yn anweledig a diflannu. Felly, roedd Elisa, Daniele, Irene a Bruno ar eu pen eu hunain yn y ty tywyll. Roedd ar y plant ormod o ofn i anadlu bron pan welson nhw draed blewog a llygaid sgleiniog...
p55 Ond, yna fe glywson nhw swn mawr ac fe ddaeth rhywbeth i'r golwg gan redeg a sgrechian.
p56 'Giovanni!" gwaeddodd y pedwar ohonyn nhw fel côr gan neidio mewn llawenydd.
p57 "Dyma fi!" – meddai'r mochyn a dyma'r angenfilod ofnadwy'n hedfan allan trwy'r ffenest.
p58 Rhedodd Bruno at y drws, ei agor a gweiddi "Mae'r ffordd yn glir! Dewch o'ma!."
p 59 Ac fe ruthrodd pawb o'r ty ysbrydion a Giovanni'n arwain   ffordd.
p60 Wrth gwrs, y prynhawn hwnnw fe osododd y plant garped coch ar gyfer Giovanni yn nhy Bruno, ac fe drefnon nhw barti mawr i ddiolch i'r mochyn.
p61 Roedd Giovanni'n falch iawn o'i hunan ac fe gamfihafiodd e'n ofnadwy!
p62 Felly, pan ddaeth Mam adre, pwy gafodd y bai?

(working translation for educational purposes only)

Gweithgareddau i'w gwneud yn yr ysgol:
1.a) Pwy fyddech chi'n hoffi ei gael yn ffrind anweledig?
b) Plant o'r Eidal yw Bruno, Daniele, Elisa ac Irene.   A yw eu harwyr nhw yn debyg i'ch rhai chi?
c) A yw'ch arwyr chi'n dod o'r un man â'u harwyr nhw - comics, ffilmiau a chwedlau?
2. Chwiliwch am stori, digwyddiad neu ffilm sydd wedi'i seilio ar un o'r arwyr yn y llyfr.   Gorau oll os gallwch ddod o hyd i un Eidalaidd lle mae un o'r cymeriadau hyn yn chwarae rhan flaenllaw.   A yw'r cymeriadau hyn yn gyfarwydd i bobl mewn gwahanol wledydd neu a ydyn nhw'n gyfyngedig i un wlad/diwylliant?
3. Mae Bruno'n mwynhau chwarae allan yn yr awyr agored. A ydych chi'n gwybod am yr holl bethau y mae ef yn eu gwneud? Pa gêmau rydych chi'n eu chwarae a pha rai sy'n ddieithr i chi?
4. Pam y mae ffrindiau Bruno'n gwneud hwyl am ben Giovanni? A ddylen nhw wneud hynny? A oes pobl wedi bod yn gwneud hwyl am eich pen chi?
5. Ydych chi'n gwybod am rywle sy'n codi ofn arnoch chi fel y ty ysbrydion.   A oes ysbrydion mewn adeilad   ger eich ty chi?

Pethau i'w hystyried:
Pa rai o'r bwydydd yr oedd Bruno'n eu bwyta sy'n ddieithr yn eich gwlad chi? (Nutella efallai – math o hufen siocled sy'n boblogaidd iawn yn yr Eidal).
Ysgrifennwch lythyr at Bruno yn ei wahodd ef (a Giovanni) i ddod i brofi'ch hoff fwyd chi.   Efallai y gallech ofyn iddo ddod â darn o'i hoff gacen Eidalaidd.
Pe baech yn gwahodd Bruno i'ch ty chi i gael pryd o fwyd, pa fwyd fyddech chi'n ei roi iddo sy'n nodweddiadol o'ch gwlad chi?

 

Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières sydd ar gael gan tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk


The NCRCL website is hosted by Roehampton University

ncrcl February 2005