Click to Choose Language

European
Picture 
Book
Collection

EPBC Home
Background to Project
Teachers' Resource Book
EPBC Books
Ordering Details
Chatline
EPBC Contacts
Web Site Links
National Centre for Research in Children's Literature
School Education Training course (ESET):
ahlberg.JPG (10262 bytes)
Rationale - Re-telling - Translation - Activities - Reflection

Gwlad: Awstria
Iaith: Almaeneg
Teitl: Das Land der Ecken (Gwlad y Corneli)
Awduron: Ulitzka I a Gepp G.
Cyhoeddwr: Picus (1993)
ISBN: 3-85452-062-x
Dewiswyd gan: Peter Schneck
Bindesministerium für Wissenshaft Forschung und Kunst,
Abteilung III/6, Kinder-und-Jungst, A-1014 Wein, Minoritenplatz 5, Awstria.

Rheswm dros Ddewis :
Gan fod cynifer o wahanol broblemau yn Ewrop, sy'n aml yn ei gwneud yn anodd sicrhau heddwch a chyd-ddealltwriaeth, mae'r llyfr hwn yn ei symlrwydd yn awgrymu sut y gellir sicrhau cytgord gan barchu'r gwahaniaethau rhwng pobl

Crynodeb:
Yng ngwlad y corneli, mae gan bopeth gorneli.   Mae pêl yn mynd i darfu ar y system. Dim ond y plentyn sy'n gallu deall y neges.

Cyfieithiad :
1. 'Bobl bach – rydyn ni wedi cael corneli drwg heddiw'
2. 'Mmm! Mae'r corneli crensiog ‘ma'n flasus.'
3. 'Daria!   Dydyn ni ddim yn mynd i unman.'
4. 'Beth yw saith cornel y byd?'
5. 'Hei, does gan honna ddim...'
6. 'Welaist ti erioed y fath beth?'
7. 'Wyneb petryal, onglog, sgwâr, y Cyrnol Cornel!'
8. 'Dylwn i fod wedi sylweddoli.'
9. 'Mae hyn yn amhosib.   Brysiwch, dewch.'
10. 'Mae ‘na ragor ohonyn nhw!'
11. 'Ti biau honna? O ble mae'n dod?
12. 'Dal yn dynn ac fe ddangosa i i ti beth i'w wneud.'

(working translation for educational purposes only)

Gweithgareddau i'w defnyddio yn yr ysgol :
(Efallai y gellid defnyddio'r llyfr hwn ar y cyd ag 'A ovelha negra'- Portiwgal)
1. Edrychwch yn ofalus ar y lluniau :
Trafodwch i) Pam y mae'r oedolion yn amheus o'r bêl
              ii) Pam y gall y plant dderbyn ‘pethau crwn'
Gwnewch lyfryn consertina gan ddefnyddio 'gwahaniaeth' arall i adrodd stori debyg.

2. A all y plant feddwl am bethau yn eu bywydau nhw sy'n 'wahanol' ac nad yw pobl eraill yn eu deall bob amser? E.e. rhyw chwiw/ffasiwn neu ddymuniad i edrych ar raglenni teledu neu ddarllen llyfrau nad yw eu rhieni'n eu deall o bosib.
Gofynnwch i'r plant ddewis rhywbeth yr hoffent ei gael yn anrheg ben-blwydd, ond y gwyddant nad yw eu rhieni'n deall pam.   Gofynnwch i'r plant wneud rhestr o resymau pam yr hoffent gael yr anrheg hon ac yna ysgrifennu llythyr i geisio darbwyllo'u rhieni ei fod yn syniad da.

3. Gofynnwch i'r plant weithio mewn parau i ysgrifennu eu testun eu hunain ar gyfer y stori, ond iddynt ychwanegu rhyw bedair neu chwe thudalen i ymestyn y stori.
Yna, gallant recordio'r stori ar dâp a gallech roi'r ‘llyfrau stori' a'r tapiau yn y cornel llyfrau.

Pethau i'w hystyried : A yw'n bosib bod angen i blant, yn gyffredinol, ystyried sut y maent yn derbyn ‘pobl eraill'?

Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières sydd ar gael gan tb@trentham-books.co.uk neu
www.amazon.co.uk


The NCRCL website is hosted by Roehampton University

ncrcl February 2005