|
Rheswm
dros ddewis y llyfr:
Naratif gweledol hynod o ddifyr, y gall pobl o wahanol wledydd
ei ddeall, ond sy'n cynnwys cyfeiriadau at ddiwylliant yr Almaen a'r iaith
Almaeneg.
Crynodeb:
Mae Raul y bugail wedi cael llond bol ar fyw yn y wlad ac mae'n
gadael am y dref. Heb yn wybod iddo, mae'r defaid yn cael gafael ar edau
o'i siwmper ac yn ei ddilyn. Yn ystod ei daith ar y trên a thrwy
ei anturiaethau wedyn, mae'r edau goch, sy'n arwydd o bresenoldeb ei ddefaid,
gydag ef. Hyd yn oed pan fydd Raul yn syrthio mewn cariad, mae'n cael
ei ddenu yn ôl i'r wlad ac mae ei gariad yn sylweddoli na ellir
gwahanu Raul oddi wrth ei wreiddiau yn y wlad.
Cyfieithiad:
1. Roedd Raul y bugail yn cyfrif ei ddefaid bob bore. Yna, byddai'n
gorwedd yn y cae yn gwrando ar y defaid yn pori. Ddydd ar ôl dydd,
wythnos ar ôl wythnos.
2. Un bore, ni wnaeth Raul gyfrif ei ddefaid. Edrychodd yn y drych
yn lle hynny. 'Rwy'n edrych fel dafad', meddyliodd ac roedd yn flin achos
roedd yn meddwl ei fod yn ddel. Cyfrifodd ei arian, aeth i'r orsaf a dal
trên i'r ddinas.
3. Cafodd fflat fechan ar bedwerydd llawr ty mawr yn y ddinas.
Rhoddodd ei ddillad i sychu ar y balconi. Aeth y cymdogion allan a meddwl
'Dyma oglau da.' Ac fe fuon nhw'n breuddwydio am gaeau gleision a chymylau
gwynion. Drannoeth, aeth Raul i siop fawr. Roedd eisiau prynu siwt. Pan
welodd ei hun yn y drych, meddai 'Ydw, rwy'n ddyn smart nawr'. Prynodd
y siwt orau, plygodd ei hen ddillad a'u taflu'n sypyn i'r bin.
4. Yna, aeth Raul i far crand. 'Dyma oglau da', meddai'r bobl mewn syndod.
Fe ddechreuon nhw feddwl am ddolydd eang. Daeth merch i mewn ac
eistedd wrth ymyl Raul.' A gaf i fy nghyflwyno fy hunan? Barbara ydw i.'
Cochodd Raul. Yna cyflwynodd ei hunan. Fe arhoson nhw yno'n sgwrsio tan
berfeddion nos. 'Hoffet ti ddod i swper nos yfory?' gofynnodd Raul i Barbara.
Cytunodd Barbara a ffarwelio [[Yn llythrennol, ysgwyd ei law – mae ffrindiau
a chydnabod yn ysgwyd dwylo wrth gwrdd neu ffarwelio yn yr Almaen]]. 'Wela
i di yfory, ‘te.'
5. Eisteddodd Raul yn y trên tanddaearol. Roedd hen ddyn a chi yn
eistedd gyferbyn ag ef. Roedd y ci'n sniffian trowsus Raul ac yn breuddwydio
am ddefaid a phorfeydd. Stopiodd y trên. Daeth dafad i mewn a mynd
at Raul. Syllodd y bobl yn syn. Tynnodd y ci wrth ei dennyn. Yn yr orsaf
nesaf, daeth tair dafad i mewn a mynd at Raul. Cyfarthodd y ci. Stopiodd
y trên eto. Aeth Raul allan ar frys gwyllt. Aeth y pedair
dafad ar ei ôl.
6. Erbyn iddo gyrraedd y fflat, roedd yno bedair ar ddeg o ddefaid. Roedd
Raul yn rhy flinedig i fod yn flin ac aeth i'r gwely. Ymunodd y
defaid ag ef.
7. Fore trannoeth, ymolchodd Raul. 'Mae angen torri fy ngwallt', meddyliodd.
Clôdd y defaid yn y fflat a mynd i chwilio am farbwr.
8. Pan aeth i mewn, gofynnodd y Barbwr iddo 'Beth alla i ei wneud i chi?'.
‘Fe hoffwn rywbeth smart, os gwelwch yn dda', atebodd Raul. ‘Fe wna i
dorri'ch gwallt chi'n fyr, ‘te', meddai'r barbwr. 'Ai chi biau'r defaid
yna? Dydyn ni ddim yn cneifio defaid.' Edrychai'r defaid trwy'r ffenest
wrth i'r barbwr gneifio Raul. Talodd am gael torri ei wallt a mynd
i siop fawr i brynu rhywbeth i'w wneud i swper. Roedd eisiau bwyd ar y
defaid. Bu tair ohonyn nhw'n cnoi llawes crys, bwytodd un ohonyn nhw giwcymber
ffres ac fe fu pump ohonyn nhw'n bwyta licrish.
9. Pan gyrhaeddodd Raul yn ôl i'r fflat, gallai gyfrif tair ar hugain
o ddefaid. 'Mae'n rhaid i chi fynd', sgrechiodd. 'Ba, ba, ba, be', atebodd
y defaid. Clywodd gloch y drws yn canu. 'O, mam fach, mae Barbara
wedi cyrraedd!' Rhoddodd y defaid i'w cuddio yn y dodrefn yn frysiog a
mynd i agor y drws. 'Heddlu. Noswaith dda. Oes gennych chi ddefaid yn
cuddio yn y fflat?' 'Ba, ba' clywsant lais o dan y soffa, y tu ôl
i'r teledu ac o'r cwpwrdd.
10. 'Aha, felly roedden ni ar y trywydd iawn wedi'r cyfan. Mae'r anifeiliaid
hyn wedi creu tipyn o drafferth …'
11. Aeth y plismyn â'r tair dafad ar hugain gyda nhw. Pan gyrhaeddon
nhw swyddfa'r heddlu roedd ganddyn nhw gryn dipyn o waith i'w wneud. Roedd
rhaid ysgrifennu adroddiad am bob dafad a'u cadw yn ffeiliau trwchus yr
heddlu.
Adroddiad Rhif 401 89 2 770 14.07.1996
[Lluniau o'r Defaid: chwith, tu
blaen de]
Dafad rhif 04-
dim rhagor o fanylion
Datganiad pan gyhuddwyd hi o ddwyn o siop: Ba,
ba, be
[olion traed] BD
troed flaen dde BCh
troed flaen chwith OD
troed ôl dde OCh
troed ôl chwith
BD BCh
OD OCh
Tystiolaeth:
T1: Cafwyd y dystiolaeth yn ei cheg:
hanner botwm (di-liw) edau
(du, gwyrdd)
fflwff (wedi plygu, hir, byr) T2:
Tystiolaeth wedi treulio:
peli bach crwn (brown) hanner
botwm (di-liw)
Sylwadau: Nid
oes digon o dystiolaeth i gyhuddo'r ddafad.
Felly, gorchmynnir rhyddhau dafad rhif 4 ar unwaith.
Llofnod y cyhuddedig: Llofnod
y swyddog ar ddyletswydd:
13. Pan ganodd cloch y drws yr eildro, Barbara oedd yno. Roedd swper
yn barod. Bu Raul a Barbara'n yfed gwin ac yn sgwrsio tan berfeddion nos.
Clywodd Barbara arogl ei wallt. 'Fe hoffwn i orwedd gyda ti mewn cae gwelltiog',
meddai ac fe orweddon nhw ar soffa Raul.
14. Daeth swn mawr 'Ba, ba' o'r grisiau. 'Ust', sgrechiodd y cymdogion.
Roedd y tair dafad ar hugain yn ystafell fyw Raul eto. 'Ti biau'r defaid
yma?' holodd Barbara.
15. Cododd Raul a heb ddweud yr un gair, aeth allan o'r fflat, heibio
i'r cymdogion, allan i'r stryd, heibio i'r siop fawr, heibio i'r bar crand,
mor bell fel na allai weld adeiladau'r ddinas. Edrychodd ar yr awyr dywyll
a, chyn hir, gallai glywed y defaid yn pori. Roedden nhw wedi'i
ddilyn. 'Ond rwy'n mynd yn ôl i'r ddinas at Barbara yfory!' gwaeddodd
arnynt.
16. Eisteddai Barbara ar soffa Raul yn mwytho'r ddafad. Dafad rhif 24
oedd hi. Roedd wedi bod yn y bath trwy'r dydd ac roedd wedi crebachu
fel siwmper wlân yn y golch. 'Fe awn ni i chwilio am dy fugail di
yfory', addawodd Barbara. Aeth y ddwy ohonyn nhw i gysgu a breuddwydio
am gaeau, llygaid y dydd a Raul y Bugail.
(working translation for educational purposes only)
Gweithgareddau
i'w gwneud yn yr ysgol:
1. Mae'r llyfr yn gweithio ar o leiaf ddau drosiad Almaenig:
un ohonynt yw'r trosiad gweledol ‘roter Faden', sef yn llythrennol, yr
edau goch, sy'n derm ffigurol am thema stori ac sydd i'w weld yn rhedeg
trwy'r llyfr i gyd.
i) Sut y mae'r awdur yn defnyddio'r edau goch i gysylltu digwyddiadau
yn y stori?
ii) Ceisiwch ysgrifennu darn byr ar gyfer y papur lleol, yn disgrifio
taith Raul i'ch tref chi.
2. Mae'r ail drosiad yn hollol groes i'r dywediad ‘jemanden nicht riechen
können', yn llythrennol peidio â hoffi arogl rhywun, neu'n
ffigurol, casáu rhywun â chas perffaith. Mae'r awdur yma
yn troi'r dywediad ar ei ben. Mae pobl, yn enwedig Barbara, yn hoffi arogl
Raul, ac mae hynny'n golygu eu bod yn ei garu.
i) Sut y mae hyn yn effeithio ar eich dealltwriaeth o Raul fel person?
ii) Ysgrifennwch ddarn yn disgrifio'i gymeriad, gan esbonio wrth ffrind
sydd heb ddarllen y llyfr sut un yw Raul.
3. Edrychwch ar dudalennau 19 a 20, lle mae'r heddlu'r arestio'r
defaid!.
i) Edrychwch ar y manylion a nodwyd. Ydych chi'n gallu deall beth y maent
yn ei ddweud?
ii) A oes geiriau tebyg yn eich iaith chi?
iii) A ydych chi'n credu y byddai eisiau dogfennau mor fanwl yn eich gwlad
chi pe bai rhywun yn cael ei arestio?
iv) Ewch ati i greu ffeil ar gyfer un o'ch anifeiliaid anwes chi neu anifail
dychmygol.
Pethau
i'w hystyried: Mae nifer o bethau diddorol y gellid
eu gwneud â'r llyfr mewn gwahanol wledydd. Un ohonynt fyddai
gweithio gyda gwahanol drosiadau ac ymadroddion ffigurol, boed
y rheiny'n benodol i un diwylliant ai peidio, a'u darlunio. Yna, gellid
eu cymharu â'ch ieithoedd chi.
Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â
llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières
sydd ar gael gan
tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk
|