|
Rheswm
dros ddewis y llyfr:
Dewiswyd y llyfr hwn gan ei fod yn cyfuno un arddull o ddau
safbwynt: gyda'i gilydd, mae'r awdur a'r darlunydd yn dangos y golau a'r
cysgod sydd i'w gweld yn aml mewn gweithiau celfyddyd Sbaenaidd. Mae'r
llyfr yn creu naws o ddirgelwch a ffantasi sy'n dechrau ar y dudalen gyntaf
ac yn symud ymlaen nes cyrraedd uchafbwynt hapus ar y diwedd.
Crynodeb:
Mae 'Gwarchodwr y Pethau Coll' yn cadw pethau sydd ar goll o dan
glo mewn plasty baróc. Daw Gabriel o hyd i'w chwyrligwgan ef a
chloc ei fam yno. Yn yr oriel ddrychau, daw o hyd i Analisa, ffrind ysgol
iddo sydd â thipyn o ddirgelwch o'i chwmpas ac y mae'r gwarchodwr
yn ei hamddiffyn gan obeithio y daw rhywun i'w rhyddhau o'r swyn.
Ceir nifer o themâu yn y llyfr difyr hwn. Y thema amlycaf
yw unigrwydd – sy'n diflannu lle ceir cariad a chyfeillgarwch. Yn ogystal,
mae'r cyfuniad o destun a lluniau yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o weithiau
Sbaenaidd: er enghraifft, mae nifer o'r darluniau ar draws ddwy dudalen
ac fe geir ynddynt naws swrrealaidd, sy'n talu teyrnged i artistiaid fel
Dali (tudalen 24) a Velázquez (tudalen 34).
Mae Gabriel wedi colli ei chwyrligwgan ac mae'n siomedig iawn.
Yn yr ysgol, mae'n gwneud ffrindiau â merch braidd yn rhyfedd o'r
enw Analisa, sy'n absennol yn aml ac nad yw'n siarad â'r plant eraill.
Ar y diwrnod y mae Gabriel yn colli ei chwyrligwgan, daw Analisa i siarad
ag ef. Mae hi'n gwybod pam y mae ef yn drist a lle y daw o hyd i'r chwyrligwgan.
Mae'n mynd ag ef i hen blasty lle mae dyn trwsiadus a phwerus yr olwg
yn byw. Dyma 'Warchodwr y Pethau Coll' sy'n mynd â'r plant i mewn
i'w dy mawreddog sy'n llawn ystafelloedd enfawr ag ynddynt lu o bethau
coll.
Yn gyntaf, caiff Gabriel ei arwain i ystafell sy'n llawn teganau coll.
Daw o hyd i'w chwyrligwgan yma. Welwch chi e?
Wrth iddo adael, dywed y Gwarchodwr wrtho na ddylai ddychwelyd os nad
yw'n bwysig iawn.
Fodd bynnag, yn y llyfrgell, mae Gabriel yn cofio bod ei fam wedi colli
hen watsh boced, felly penderfyna edrych amdani.
Dydi'r Gwarchodwr ddim yn hapus iawn ond mae'n cytuno i fynd â Gabriel
i ystafell yn llawn watshus coll. Daw o hyd i watsh ei fam ym ac mae hithau
wrth ei bodd.
Yn y llyfrgell hefyd, daw Gabriel o hyd i ddrych bach y mae ef yn credu
sy'n perthyn i Analisa. Mae'n mynd at y Gwarchodwr eto gan feddwl y gallai
hi fod yno.
Yn y pen draw, daw o hyd iddi yn ystafell y drychau coll. Mae'n gweld
adlewyrchiad o'i hwyneb drosodd a thro yn y drychau. I ddechrau, mae'n
credu bod y Gwarchodwr yn ei chadw'n garcharor ond wedyn mae'n dysgu bod
Analisa wedi bod ar goll a'i bod yn disgwyl am rywun a fyddai'n dymuno
aros gyda hi.
Cyfieithiad (Tudalennau 7,9,10
& 11):
Roedd y diwrnod hwnnw'n mynd i fod yn wahanol.
Cerddodd Gabriel i'r ysgol yn gyflym, fel arfer. Ond heddiw, roedd ganddo
rywbeth arbennig yn ei fag: ei chwyrligwgan Tsieineaidd. Un metal, lliwgar
oedd e. Pan oedd yn chwyrlïo, roedd yn chwarae cân hapus. ‘Welodd
Gabriel erioed ddim byd tebyg iddo. 'Af i ag e allan i'r iard amser chwarae,'
meddyliodd wrth gyrraedd i'r ysgol.
Yn sydyn, ymddangosodd Analisa yn y ffenest. Hi oedd y disgybl mwyaf rhyfedd
yn yr ysgol. Fe gyrhaeddodd ar ôl dechrau'r tymor ac roedd yn absennol
yn aml. Doedd neb o'r plant yn gwybod pam. Doedd hi ddim yn edrych
yn sâl, ond roedd hi'n rhyfedd iawn. Ychydig iawn a siaradai
ac roedd ganddi ddrych bach yn ei llaw bron bob amser.
Pan aeth Gabriel i mewn i'r ystafell ddosbarth, sylwodd nad oedd ei chwyrligwgan
yn ei fag! Dechreuodd ei galon guro'n gyflymach. 'Ydw i wedi'i
golli yn y stryd?' gofynnodd iddo'i hunan yn drist. 'Sut na wnes i sylwi?'
Roedd eisiau rhedeg allan i chwilio amdano, ond allai e ddim. Roedd
y wers bron â dechrau a fyddai'r athrawes ddim yn credu bod colli
tegan yn beth pwysig.
Yn ystod amser chwarae, roedd Gabriel yn teimlo'n ddigalon iawn pan ddaeth
Analisa ato'n annisgwyl. 'Wyt ti wedi colli rhywbeth?' gofynnodd iddo.
Roedd y bachgen wedi synnu'n fawr. Dyna'r tro cyntaf i Analisa
siarad ag e.
Ac roedd hi wedi dyfalu beth oedd yn bod.
'Sut wyt ti'n gwybod?' holodd yn syn.
'Roedd hi'n edrych yn debyg. Mae ‘na rywbeth o dy gwmpas di … Beth wyt
ti wedi'i golli?'
'Fy chwyrligwgan Tsieneaidd, ar fy ffordd i'r ysgol.'
'Wyt ti eisiau dod o hyd iddo?' gofynnodd Analisa gan syllu arno. 'Wrth
gwrs, ond bydd rhywun wedi cael gafael ynddo.'
'Mae'n dibynnu pwy,' meddai'r ferch. 'Fe awn ni i chwilio amdano ar ôl
ysgol.'
'Fydd hynny'n dda i ddim.'
'Gawn ni weld,' meddai gan droi ar ei sawdl a cherdded i ffwrdd.
Ganol dydd, i ffwrdd â nhw. Dywedodd y ferch:
'Dere. Awn ni ddim i gyfeiriad dy dy di. Fe awn ni ar hyd ffordd
arall.'
'Dere.'
Dilynodd Gabriel hi ond roedd e'n amheus.
'Ydi hi'n mynd i 'nhwyllo i?'
Fe gerddon nhw'n gyflym, ac Analisa'n arwain y ffordd. Cyn hir, fe ddaethon
nhw i ardal ddieithr. Ymhen tipyn, pwyntiodd Analisa at dy yng nghefn
sgwâr bach unig, ac meddai:
'Cer i fan'na i ofyn am dy chwyrligwgan. Cer, ac fe gei di weld.'
(working translation for educational purposes only)
Gweithgareddau
i'w gwneud :
1. Trafodwch sut deimlad yw colli rhywbeth a
i) pa mor hapus rydych yn teimlo pan ddewch o hyd iddo NEU
ii) pa mor ddiflas rydych yn teimlo o wybod na ddewch chi byth o hyd iddo
Ysgrifennwch at ffrind/rhieni yn esbonio sut yr ydych yn teimlo NEU
gwnewch ddrama fach gyda'ch partner
2. Trafodwch gymeriad Gabriel yn y stori
i) Ble mae'n byw; yr hinsawdd; yr ysgol; ei ymddangosiad cyffredinol ac
ati
ii) Sut y mae'n teimlo ar ôl colli'r chwyrligwgan; ei unigrwydd;
sut deimlad yw gwneud ffrind ac ati.
Ewch ymlaen â stori Gabriel ac Analisa ar ffurf bwrdd stori NEU
Gwnewch fwrdd stori'n disgrifio sut y gwnaethoch chi gwrdd ag un o'ch
ffrindiau NEU
Ysgrifennwch gerdd yn sôn am adeg pan oeddech chi'n teimlo'n unig
iawn.
3. Edrychwch ar y lluniau ar dudalennau 24 a 34.
i) A welwch chi'r cyfeiriadau at Dali a Velázquez?
ii) Chwiliwch am wybodaeth am y ddau arlunydd hyn o Sbaen.
Gwnewch daflen fach yn gwahodd ffrindiau/rhieni/athrawon i arddangosfa
o waith y ddau arlunydd hyn NEU
Rhowch gynnig ar dynnu llun yn arddull un o'r arlunwyr hyn.
Pethau
i'w hystyried:
Mae'r lliwiau brown ac oren cynnes yn y lluniau yn El guardián
del olvido yn adlewyrchu cefn gwlad Sbaen a hinsawdd y wlad. Pa
liwiau fyddai'n adlewyrchu'ch gwlad chi?
Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â
llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières
sydd ar gael gan
tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk
|