|
Rheswm dros ddewis y llyfr
hwn:
Dewiswyd y llyfr hwn gan fod Ib Spangg Olsen yn un o awduron plant
mwyaf poblogaidd Denmarc. Mae'n deall ffantasïau a theimladau
plant i'r dim ac, ar yr un pryd, yn edrych ar fywyd o safbwynt Danaidd.
Crynodeb:
Mae Mosekonens Bryg yn adrodd stori'r tymhorau dros
gyfnod o flwyddyn. Lleolir y stori mewn ardal sy'n nodweddiadol
iawn o Ddenmark Ddenmarc : cors, dôl a llyn. Mae'r llyfr
yn ceisio disgrifio sut a pham y mae'r niwl yn cyhwfan uwch ben y gors.
Nid yw'r stori'n gywir o safbwynt biolegol/ffisegol ond mae'n adrodd
hanes hyfryd pobl y gors yn berwi dwr i wneud cwrw, yn cysgu yng nghrombil
y ddaear ac yn dod i'r wyneb, gyda'u plant, pan fydd y Gwanwyn yn y tir.
Cyfieithiad:
Yn y Gwanwyn, pan fydd y rhosydd a'r dolydd yn stemio a'r haul
yn taro'r ddaear, mae dywediad yn Nenmarc bod 'gwraig y gors yn bragu
cwrw'. Y dwr sy'n anweddu – nid cwrw sy'n cael ei fragu! Fodd bynnag,
mae lb Spang Olsen yn dweud wrthym beth sy'n digwydd mewn gwirionedd:
Yn yr Haf, pan fydd y nosweithiau'n dawel, mae gwraig y gors yn ymddangos.
Mae'n edrych i fyny i'r awyr ac yn gweld ei gwr, sy'n edrych fel
trôl mawr, yn dod i gwrdd â hi ar draws y gors. Yna,
daw merched bach y gors i'r golwg, gan ddawnsio a neidio. Maen
nhw'n eithaf bach ac mae ganddyn nhw gnwd o wallt gwyrdd nad yw byth yn
cael ei gribo. Mae'n edrych fel gwair.
Mae bechgyn y gors yn griw gwirion sy'n chwarae bili-ffwl trwy'r nos.
Maen nhw'n tynnu cynffon y llwynog ac yn pysgota yn y gors gan
ddychryn yr hwyaid o'u cwsg.
Dim ond yn nhywyllwch y nos y mae pobl y gors i'w gweld achos dydi'r
haul ddim yn cytuno â nhw.
Cyn gynted ag y mae'r haul yn codi, maen nhw'n brysio i ffwrdd – i lawr
i'r gors. Does neb yn eu gweld yn ystod oriau'r dydd.
Ond pan ddaw'r nos, mae gwraig y gors a'i gwr a'i phlant yn dod i'r golwg.
Mae gwraig y gors yn dechrau ar ei gwaith: mae'n rhoi llawer o
bethau mewn boncyff gwag o grochan. Mae'n defnyddio cant a mil
o wahanol bethau – mae'n anodd gwybod o ble y mae'n eu cael nhw i gyd.
Mae'n cymryd y dafn olaf o heulwen, a golau cyntaf y lleuad, ychydig
o berlysiau, chwa o wynt a chân aderyn. Yna, mae'n ychwanegu arogl
llygoden y dwr.
Ar ôl cymysgu'r rhain i gyd â llawer o bethau eraill, mae'n
dechrau cnoi mawn o'r gors gan ei ddefnyddio i wneud casgen gwrw.
Fore trannoeth, cyn codiad haul, mae'n dechrau bragu cwrw ac mae merched
bach y gors yn gorwedd i lawr fel tân ellyll i gynhesu crochan eu
mam.
Ymhen ychydig oriau, bydd ganddi ddigon o gwrw ond bydd yn rhaid gwylio
nad yw'n gollwng o'r gasgen. Dyna pam y mae gwalch y penwaig yn
rhoi ei big yn y twll yn y gasgen!
Yn y gaeaf, mae teulu'r gors yn cysgu'n sownd yng nghrombil y ddaear a
phlant yn sglefrio ar y rhew uwch eu pennau.
Ond pan ddaw'r Gwanwyn, edrychwch beth sy'n digwydd:
Mae plant y troliaid yn chwythu i'r awyr – ac mae eos yn ymddangos. Maen
nhw'n chwythu ar y coed helyg a'r ieir dwr – ac maen nhw'n chwythu ar
yr hwyaid a'r dyfrgwn – ac mae popeth yn y gors yn cael bywyd newydd.
Yn olaf, dywed lb Spang Olsen wrthym am yr adar sy'n nythu ac yn magu
yng ngwallt merched y gors.
Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd!
(working translation for educational purposes only)
Gweithgareddau
i'w gwneud yn yr ysgol:
1. Chwiliwch am Ddenmarc ar y map a meddwl pa fath o dywydd
a geir yno yn y Gwanwyn, yr Haf, yr Hydref a'r Gaeaf. Beth yw'r cysylltiad
rhwng y tywydd a gweithgareddau pobl y Gors?
2. A yw'r plant yn gwybod am straeon/chwedlau gwerin eraill sy'n sôn
am bobl wahanol i ni sy'n byw o dan y ddaear. Gallent weithio mewn grwpiau
i sgrifennu cyflwyniad i stori sy'n ‘esbonio' pam.
3. Edrychwch yn ofalus ar y llun ar dudalen 20, lle mae'r plant yn sglefrio
ar y llyn a phobl y gors yn gorwedd ar eu hyd. Ydyn nhw'n cysgu? Beth
maen nhw'n ei wneud/feddwl? Beth wnan nhw nesaf? Efallai yr hoffai'r
plant greu bwrdd stori'n dangos cylch blynyddol un o bobl y Gors.
Pethau i'w hystyried:
Meddyliwch beth sydd gan wledydd Gogledd Ewrop a De Ewrop yn
gyffredin. Beth sy'n wahanol rhyngddynt? A allai hyn effeithio
ar bersonoliaethau/ffyrdd o fyw y plant?
Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â
llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières
sydd ar gael gan tb@trentham-books.co.uk
neu www.amazon.co.uk |