|
Rheswm
dros ddewis y llyfr:
Dewisw yd y llyfr hwn gan ei fod yn llyfr lluniau ardderchog
a'i fod yn cynnwys agwedd ar chwedlau gwerin Iwerddon.
Crynodeb:
Mew n chwedl o'r canoloesoedd diweddar, caiff Crom Dubh (yr un
Cefngrwm Tywyll – mae “crom” a “dubh” yn debyg i'r geiriau cyfatebol
yn y Gymraeg) ei bortreadu fel pechadur mawr a fu farw ac a gariwyd i
ffwrdd gan ddemoniaid, ond mae Sant Padrig (nawddsant Iwerddon) yn ymyrryd
ac yn ei achub gan fod Crom Dubh wedi rhoi bustach i'r tlodion bob blwyddyn.
Felly, mewn chwedlau gwerin Crom Dubh sy'n cyflwyno bustach (neu
grochan) i Sant Padrig ac mae'r sant yn dangos bod ei ddiolch, a ysgrifennir
ar ddarn o bapur, yn gorbwyso'r anrheg ar y glorian. Bryd hynny,
cafodd Crom Dubh droedigaeth Gristnogol ac fe gofir am hyn hyd heddiw
trwy gynnal gwyl o'r enw 'Sul Crom Dubh' ar y dydd Sul agosaf at 1 Awst.
Cyfieithiad:
Sant Padrig a Crom Dubh
Chwedl werin: a adroddir gan Gabriel Rosenstock
Darluniau gan Piet Sluis
Cyhoeddwr: An Gúm, 44 Upper O'Connell St. Dulyn
Addas ar gyfer plant 6-9 oed
P1. Pagan oedd Crom Dubh ac roedd yn byw yn Swydd Mayo yng nghyfnod Sant
Padrig. Roedd Padrig a Crom Dubh yn byw ar bwys ei gilydd ac fe ddaethon
nhw'n ffrindiau da.
P2. Un diwrnod, anfonodd Crom Dubh ei was ag anrheg i Sant Padrig, darn
braf o gig.
P3. 'Dyma anrheg oddi wrth fy meistr' meddai'r gwas. 'Deo Gratias' atebodd
Sant Padrig.
P4. Aeth y bachgen yn ôl at ei feistr. 'A wnaeth Padrig ddiolch
i mi?' gofynnodd Crom Dubh. 'Dydw i ddim yn gwybod. Wnes i ddim
deall beth a ddywedodd e' atebodd y bachgen. ' Doedd e ddim yn siarad
ag acen Mayo, efallai mai acen Kerry oedd hi'.
P5. Drannoeth, galwodd Crom Dubh ar y bachgen eilwaith. 'Mae gen i ddarn
arall o gig. Rho hwn i Padrig i weld a fydd e'n diolch i mi'. Felly
i ffwrdd â'r bachgen i dy Padrig.
P6. Rhoddodd y bachgen yr ail ddarn o gig i'r sant gan ddweud 'Dyma anrheg
oddi wrth fy meistr'. Dywedodd Padrig 'Deo Gratias'.
P7. 'A ddiolchodd Padrig i mi heddiw?' gofynnodd Crom Dubh. 'Dydw i ddim
yn gwybod beth a ddywedodd e' atebodd y bachgen. Doedd e ddim yn
siarad Gwyddeleg Mayo, efallai mai Gwyddeleg Corc oedd e'. Roedd Crom
Dubh yn anhapus iawn am hynny.
P8. Drannoeth, anfonodd Crom Dubh ddarn arall o gig i Sant Padrig. 'Anrheg
arall gan fy meistr' meddai'r bachgen. 'Deo Gratias' meddai Padrig, a
dyna'i gyd.
P9. Aeth y bachgen yn ôl at ei feistr. 'Wel, a wnaeth e ddiolch
i mi heddiw?' 'Dim ond dweud yr un peth â ddoe ac echddoe' atebodd
y bachgen. 'Cer yn ôl a dweud wrth ddod yma ar unwaith' meddai Crom
Dubh yn grac.
P10. Daeth Sant Padrig i dy Crom Dubh. Dyma Crom Dubh yn ei gyhuddo ar
unwaith. 'Wnest ti ddim diolch i mi am y tri darn o gig' meddai. 'Fe ddiolchais
i i ti'n fawr iawn' meddai Sant Padrig. 'Wnest ti ddim diolch i mi o gwbl'
meddai Crom Dubh. 'Do wir, fe wnes i' atebodd Sant Padrig.
P11. 'Edrych' meddai Padrig, 'A oes tafol gen ti?' Oes' atebodd Crom Dubh.
'A oes gen ti dri darn o gig, mor drwm â'r rhai y gwnest ti eu hanfon
yn anrhegion i mi?' gofynnodd Padrig. 'Oes,' atebodd Crom Dubh.
P12. 'Rho nhw ar y dafol' gorchmynnodd Padrig. Rhoddodd Crom Dubh y tri
darn ar un ochr i'r dafol. Ysgrifennodd Sant Padrig 'Deo Gratias' dair
gwaith ar y darn papur. Yna, rhoddodd y darn papur ar ochr arall y dafol.
Roedd y darn papur yn drymach o lawer na'r tri darn o gig.
P13. 'O Padrig' meddai Crom Dubh, 'A wnei di fy medyddio i a 'nheulu a
‘ngweision i gyd, er mwyn Duw.' Cafodd Crom Dubh a'i bobl eu bedyddio
ar y diwrnod hwnnw, y dydd Sul olaf ym mis Gorffennaf, amser maith yn
ôl. Deo Gratias.
(working translation for educational purposes only)
Gweithgareddau
i'w gwneud yn yr ysgol:
1. Unrhyw fath o waith cymharol ar wleddoedd a gwyliau ledled
Ewrop, yn enwedig gwyliau diolchgarwch, gwyliau haf, gwyliau cenedlaethol
ac ati.
2. Gwaith ar foesau ac arferion ledled Ewrop e.e, Yn Ffrainc, mae'n beth
cwrtais i ddefnyddio darn o fara i sychu'r gweddillion oddi ar eich plât
ond yn Lloegr mae hynny'n beth anghwrtais. Helpwch y plant i ddeall y
gall rhywbeth sy'n ymddangos yn anghwrtais fod yn ddim ond arfer wahanol
mewn gwahanol ddiwylliant.
3. Gallwch drafod gwrthdaro a chamddealltwriaeth. Sut y mae Padrig yn
osgoi gwrthdaro?
4. Mewn ysgolion yn Iwerddon, byddai'r stori fach hon yn ddefnyddiol iawn
tua adeg Dydd Gwyl Sant Padrig, Gwyl Nawddsant Iwerddon, pryd y gallai'r
plant wneud drama fach ohoni.
Pethau
i'w hystyried: Soniwch am arferion sy'n adlewyrchu'ch
diwylliant chi. Trafodwch pa rai o'r rhain y gellid eu rhannu â
phlant mewn gwledydd eraill yn Ewrop.
Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â
llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières
sydd ar gael gan
tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk
|