Click to Choose Language

European
Picture 
Book
Collection

EPBC Home
Background to Project
Teachers' Resource Book
EPBC Books
Ordering Details
Chatline
EPBC Contacts
Web Site Links
National Centre for Research in Children's Literature
School Education Training course (ESET):
foreman.JPG (14310 bytes)
Rationale - Re-telling - Translation - Activities - Reflection


Gwlad:  Ffrainc
Iaith: Ffrangeg
Teitl:  Une nuit, un chat... (Un Noson, Un Gath...)
Awdur: Pommaux Y.
Cyhoeddwr: L'école des loisirs (1994)
ISBN:  2 211 027 741
Dewiswyd gan:  Francis Marcoin
Athro Llenyddiaeth Ffrangeg, Universitè D'Artois, UFR de lettres Modernes, 9 rue du Temple, BP 665, 62030 Arras, Ffrainc.

Rheswm dros ddewis y llyfr:
Dewiswyd y llyfr hwn gan ei fod wedi'i ysgrifennu gan awdur llyfrau plant adnabyddus a phoblogaidd iawn yn y Ffrangeg a'i fod yn trafod thema sy'n gyffredin i bawb... tyfu i fyny a mynd allan ar eich pen eich hunan.

Crynodeb:
Mae cwrc ath i ifanc yn penderfynu mynd allan un noson ond mae ei fam bryderus yn gofyn i'w dad ei ddilyn i wneud yn siwr ei fod yn iawn. Mae'r cwrcath yn cael hwyl fawr yn darganfod pethau ond mae'n ddiofal iawn. Yn ffodus, mae ei dad yno i'w achub ond mae'n aros o'r golwg. Mae'r cwrc ath i bach yn cwrdd â chath fach ac maen nhw'n cael profiadau sy'n eu dychryn: mae llygoden fawr anferth yn ceisio'u dal ond mae'r tad yn eu hachub. Mae'r llygoden fawr yn dal ar eu hôl ond, y tro yma, mae'r cwrc ath i bach yn ymdopi ar ei ben ei hunan ac yn mynd adref yn hapus, er mawr ryddhad i'w rieni pryderus.   Yr unig drafferth yw ei fod eisiau mynd allan nos drannoeth hefyd!

Cyfieithiad:
Mae Groucho'n treulio pob nos yn gath fach dda yn ei wely, ond heno...
... mae Groucho'n neidio trwy'r ffenest ac yn mynd allan ar ei   ben ei hunan.
Roedd ei rieni'n disgwyl iddo wneud hynny.
Mam: 'Dyma ni. Rwy'n gallu ei glywed. Mae'n mynd allan.'
Tad:   'Ydi, cariad. Rwy'n gallu ei weld. Heno yw'r noson.'
Mae'r holl gath-rieni'n disgwyl yn bryderus am y noson hon: y noson pan fydd eu cath fach yn mynd allan hebddyn nhw am y tro cyntaf.
Beth pe bai'r peth bach yn mynd ar goll? Neu'n syrthio oddi ar y to neu i mewn i dwll? A hyd yn oed yn waeth: mae ‘na lygoden ffyrnig, sydd eisoes wedi llarpio sawl cath fach, yn crwydro'r ardal...
Fodd bynnag, ym myd y cathod mae ‘na reol, rheol euraid: pan fydd cath ifanc yn mynd allan ar ei ben ei hunan am y tro cyntaf, yn y nos, mae ei rieni'n gadael llonydd iddo. Byddai peidio â gadael i'w cath fath fynd allan yn y nos yn achos cywilydd ym myd y cathod.
Mam:  'Ond efallai y dylet ti ei ddilyn, heb gael dy weld!'
Tad:   'Rwyt ti'n iawn. Fydd neb yn gwybod. Ta beth, os arhosa i yma trwy'r nos, fe fyddai i wedi drysu.'
Mae'n noson dawel. Mae popeth yn brydferth. Yn y nos, gall unrhyw beth ddigwydd.
Mae Groucho'n edrych ymlaen at noson gyffrous gydag anturiaethau hudolus.
Yn y nos, mae cathod yn cysgu, yn darllen, yn cofleidio, yn crwydro neu'n cael partïon.
Yn y nos, mae Groucho'n sylwi nad llwyd yw lliw pob cath.
Yna, mae'n sylwi ar gysgodion mawr, dieithr o'i gwmpas ym mhob man.
Does dim ofn cysgodion ar Groucho ... dim ond rhai sy'n rhy fawr neu'n rhy ryfedd.
Weithiau, mae'r nos yn chwarae gêm ac yn rhoi cysgodion dychrynllyn i bethau hollol ddiniwed.
Weithiau, mae'r nos yn rhoi'r gorau i gael hwyl...
Groucho:  'Groucho yw fy enw i'
Kitty :       'Kitty ydw i .'
Groucho:  'Dyma'r tro cyntaf i mi ddod allan ar fy mhen fy hunan'
Kitty:        'A minnau.'
Groucho & Kitty:  'Y LLYGODEN FAWR!'
Rhedeg i ffwrdd yw'r unig ffordd i ddianc.
Ond dydi hi ddim yn frwydr gyfartal.
Yn ffodus, mae'r llygoden fawr yn baglu.
Mae'n syrthio, ond mae'n codi'n syth, yn gynddeiriog, ac yn ailddechrau rhedeg ar eu hôl cwrso .
GWAITH AR Y FFORDD
'Ar yr eiliad olaf', meddai Groucho wrth Kitty, 'Cer di i'r dde ac fe af innau i'r chwith.'
Cyn gynted ag y dywedodd hynny, roedd wedi'i wneud!
A'r llygoden fawr ... ? Pa lygoden fawr? Does dim llygoden fawr.
Tad:  'Da was!!'
Kitty:  'Am noson wych!' meddai Kitty, ond wedyn dywedodd: 'Mae'n rhaid i ni fynd adre nawr!  Mae pawb yn gwybod bod cathod bob amser yn mynd adref cyn y wawr.' Mae Groucho'n sylweddoli pa mor hapus y mae'n teimlo wrth hebrwng ei ffrind adref.
Mae Groucho a Kitty yn trefnu i gwrdd eto, maen nhw'n ffarwelio ac mae Groucho'n mynd adref ar ben ei ddigon!
'O, ‘mach i!' meddai ei fam.
'Machgen i!' meddai dad.
'Wyt ti'n iawn, was?'
'Ydw, wrth gwrs!'
'Wyt ti wedi torri rhywbeth?'
'Nac ydw, siwr!'
'Ddigwyddodd rhywbeth ofnadwy?'
'Naddo, mam...
ond rwy am fynd allan eto nos yfory.'

(working translation for educational purposes only)

Gweithgareddau i'w gwneud yn yr ysgol:
1. Mae pob plentyn yn gwybod am gyffro gwneud rhywbeth am y tro cyntaf. Mewn grwpiau bach, gofynnwch i'r plant lunio drama fer sy'n cyfleu digwyddiad fel hyn.   Yna, gellir eu rhannu â gweddill y dosbarth.
2. Mae'n debyg bod yr adeilad y mae'r cathod yn 'byw' ynddo yn wahanol iawn i gartrefi plant Cymru.   Efallai yr hoffai rhai o'r plant dynnu llun o'u syniad nhw o'r adeilad cyfan ac, o bosib, wneud ychydig o waith ar bensaernïaeth Ffrainc, gan ganolbwyntio ar y cyfnod pryd y codwyd yr adeilad hwn.
3. Ar dudalennau 14/15  dywedir ' Yn y nos, mae Groucho'n sylwi nad llwyd yw lliw pob cath'.
Mae hyn yn gwrth-ddweud dywediad Ffrangeg 'Llwyd yw pob cath yn y nos'. Efallai yr hoffech drafod yr hyn a ddarganfu Groucho gyda'r plant.   Hefyd, gallech chi a'r dosbarth wneud rhestr o ddywediadau Cymraeg neu Saesneg y mae'r plant yn eu gwybod a gofyn iddynt ysgrifennu pennill neu stori fer wedi'i seilio ar newid bach i'r geiriad. Er enghraifft, gellir aralleirio 'I'r pant y rhed y dwr' fel 'I'r pant y rhed y ddiod pan gwymp y cwpan' etc. (Troi “Here today, gone tomorrow” yn “Hare today, stew tomorrow” a gynigir yn y Saesneg).

Pethau i'w hystyried
Mae'r dywediad sy'n cyfateb i 'Cyn gynted ag y dywedodd hynny, roedd wedi'i wneud!' (t.25) bron air am air yn y Ffrangeg a'r Saesneg.   Os yw'r plant yn dysgu iaith arall, efallai yr hoffech gymharu dywediadau eraill sydd bron yr un peth. Yn y Sbaeneg, er enghraifft, yr hyn a ddywedir am  'tynnu coes' yw 'tynnu gwallt'!



Sylwer Ceir rhagor o weithgareddau'n ymwneud â llenyddiaeth ac iaith yn Picture Books sans Frontières sydd ar gael gan tb@trentham-books.co.uk neu www.amazon.co.uk

 

The NCRCL website is hosted by Roehampton University

ncrcl February 2005