|
European |
![]() |
LLyfrau Storia Lluno EwropLlyfr Adnoddau i Athrawon Defnyddio'r EPBC Bwriad y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi sut y gellir defnyddio'r EPBC mewn dosbarthiadau ysgolion cynradd. Awgrymir rhagor o weithgareddau yn yn llyfrau'r E PBC. Gellir argraffu'r gwahanol dudalennau, ynghyd â'r wybodaeth isod sy'n dweud sut i ddefnyddio'r llyfrau. Bydd hwn yn llyfr adnoddau 'gweithiol' i chi a gallwch ychwanegu'ch gweithgareddau'ch hunan a llyfrau Ewropeaidd o'ch dewis chi ato. Daw'r storïau sydd yn y casgliad hwn o 15 Aelod-Wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, a'r Swistir. Mae pob un ohonynt wedi'u hysgrifennu yn ieithoedd gwreiddiol y gwahanol wledydd a, gyda nhw, daw dwy CD o'r storïau yn yr ieithoedd hynny, ynghyd â chyfieithiadau a chrynodebau sydd i'w gweld yn llyfrau'r E PBC books. Fel cyflwyniad i'r maes, ar ddiwedd y tudalennau hyn ceir cwis byr am nifer o storïau Ewropeaidd sy'n adnabyddus ond nad yw pobl yn gwybod, yn aml, o ba wlad y daethant yn wreiddiol. Efallai yr hoffech gynnal y cwis hwn gyda'ch dosbarth, gan nodi ar fap o Ewrop lle mae'r gwahanol wledydd. Cyn trafod yr un o lyfrau'r EPBC mewn perthynas â Chwricwla Cenedlaethol, bydd o gymorth i chi eu gosod mewn cyd-destun Ewropeaidd trwy:
Cymariaethau Diwylliannol Fel holl lyfrau'r EPBC, dewiswyd Kees en Keetje oherwydd:
Mae'r lluniau yn y llyfr hwn yn bwysig iawn oherwydd, yn aml, gellir defnyddio lluniau i fynegi pethau y mae'n anodd eu cyfleu mewn geiriau. Felly, mae lluniau'n galluogi plant i werthfawrogi stori gyfarwydd mewn ffordd newydd ac i ddod o hyd i haenau dyfnach o ystyr. Yn aml, os yw plant yn gyfarwydd â chonfensiynau sy'n hanfodol i ystyr y stori, gellir defnyddio lluniau i gyfleu naratif cymhleth. Hefyd, mae lluniau'n rhoi darllenwyr mewn sefyllfa o gryfder gan eich bod yn gallu edrych arnynt a gweld y stori o wahanol safbwyntiau, yn ogystal â deall yn well sut y mae naratif ac iaith yn gweithio trwy gysylltiad rhwng y lluniau a'r testun. Cyn ‘darllen' edrychwch ar: Y TEITL, a'r lluniauKees en Keetje: Beth yw hyn yn y Gymraeg? (Kees a Keetje) Llun o ddau gymeriad: gwybod bod gan gymeriadau enwau (enwau priod) Gwybod bod y gair ‘a' neu ‘ac' (cysylltair) yn aml yn cysylltu enwau mewn teitlau llyfrau A oes cyfuniadau o lythrennau na cheir mohonynt yn y Gymraeg/Saesneg ? (tje) AWDUR Trafodwch yr enw: Jantien Buisman Dyfalwch o ba wlad y daw (Yr Iseldiroedd) Dyn neu Fenyw? (menyw) A oes cyfuniadau o lythrennau na cheir mohonynt yn y Gymraeg/Saesneg? (uis) CYHOEDDWR Enw: Uitgeverij De Harmonie Lle: Amsterdam Blwyddyn: 1986 A ddefnyddir yr un confensiynau mewn llyfrau Cymraeg? Ym mha wlad y mae Amsterdam? A oes cyfuniadau o lythrennau na cheir mohonynt yn y Gymraeg/Saesneg? (uit; rij) A oes rhyw eiriau sy'n debyg i eiriau Cymraeg neu Saesneg? A ydych wedi sylw ar rywbeth am yr iaith Iseldireg? e.e. defnyddir llawer o'r llythyren 'j', neu mae rhai geiriau'n debyg i eiriau Cymraeg/Saesneg (harmonie) A allwch chi ddyfalu pa fath o stori fydd hon?
Ar ôl y drafodaeth gychwynnol, efallai yr hoffech ofyn i grwpiau bach o blant ‘ddarllen' y stori weledol; efallai y gallech roi bwrdd stori iddynt lle gallant roi eu dehongliad ysgrifenedig nhw o'r stori. Yna, gallwch ddarllen y stori yn y Gymraeg, o'r cyfieithiad neu'r crynodeb a welir yn Llyfrau'r E PBC Books, i weld faint y mae'r testun wedi'i ychwanegu at y stori. Wedyn, gall y plant wrando ar y CD yn yr iaith wreiddiol, gan ddilyn y lluniau yn y llyfr, i weld a allant ddeall rhywfaint ar yr iaith newydd. Yna, gallwch drafod y gwahaniaethau rhwng yr ieithoedd ac, efallai, ganfod rhai pethau sy'n debyg rhyngddynt. Er enghraifft, mae llawer o eiriau yn y llyfr o'r Swistir, sydd wedi'i ysgrifennu mewn Almaeneg yn swnio'n debyg iawn i'r Gymraeg a'r Saesneg e.e. 'Pinguin' a 'Krokodil'. Mae hyd a chyflwyniad y storïau'n amrywio ond fe geir awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau pellach gyda phob un ohonynt. Nodir y rhain ar ddiwedd y disgrifiad o bob llyfr o dan Llyfrau'r EPBC Books. Gyda'r llyfrau byrraf, e.e. cyfraniad Awstria, efallai yr hoffech wrando ar y stori, ar CD mewn Almaeneg, gan ddangos pob tudalen i'r plant. Gyda'r llyfrau hwyaf, e.e. cyfraniad Sbaen, gallech wrando ar ychydig o dudalennau ar ddechrau'r stori, er mwyn cael rhyw syniad o natur yr iaith.Pwysigrwydd Llenyddiaeth Ewropeaidd i Blant Mae'n dod yn bwysicach o hyd i ni gynnwys dimensiwn Ewropeaidd mewn addysg ac un o'r ffyrdd mwyaf naturiol o wneud hynny yw defnyddio llenyddiaeth i blant. Dylid annog plant i ystyried dylanwadau Ewropeaidd ar lenyddiaeth – er enghraifft, a yw'r ffaith mai Norwyad oedd Road Dahl wedi dylanwadu ar ei storïau, neu sut y byddai byw yn y Swistir wedi dylanwadu ar Johanna Spyri pan oedd yn ysgrifennu Heidi? Gall materion fel hyn wneud plant yn fwy ymwybodol o ddiwylliannau. Mae'n bosib mai ychydig o blant sy'n ymwybodol o'r holl storïau Ewropeaidd sy'n rhan o'n treftadaeth lenyddol. Mae'r cwis isod yn ffordd dda o ddechrau gweld faint y mae eich dosbarth yn ei wybod am darddiad rhai storïau poblogaidd o Ewrop. Cwis ar Lenyddiaeth Ewropeaidd i Blant Isod, ceir rhestr o nifer o deitlau llyfrau poblogaidd i blant o Ewrop, ynghyd â'u hawduron a'r gwledydd y deuant ohonynt. Gallwch NAILL AI roi'r teitlau i'r plant a gofyn iddynt a ydynt yn gwybod pwy yw'r awdur ac o ba wlad y daw NEU gallwch ofyn iddynt gynllunio silff lyfrau ag arni 16 o lyfrau â'u meingefn yn wag. Yna, gallant ysgrifennu'r teitl, yr awdur a'r wlad ar y meingefn. Fel arall, gallech gynllunio taflen ar gyfer y plant â'r teitlau eisoes ar feingefnau'r llyfrau. Yna gallwch roi labeli ag enwau'r awduron a'r teitlau arnynt fel y gall y plant eu rhoi ar y llyfrau cywir. Ar ôl gwneud hynny, gallech annog rhai o'r plant i ddod o hyd i'r gwledydd ar fap o Ewrop ac, efallai, drafod pa ieithoedd a siaredir yno. Dyma'r teitlau, yr awduron a'r gwledydd y deuant ohonynt: ·· Yr Hwyaden Fach Hyll - Hans Christian Anderson – Denmarc
Mae'n syndod cynifer o'r storïau hyn y byddwn yn eu mwynhau heb feddwl am y diwylliannau y deuant ohonynt. Mae llawer ohonynt yn straeon traddodiadol yr ydym bron wedi'u mabwysiadu fel ein heiddo ni, ac mae eraill wedi'u hysgrifennu'n fwy diweddar ond yn boblogaidd iawn mewn ysgolion. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae awduron ledled Ewrop wedi bod yn cynhyrchu llenyddiaeth gyffrous iawn, yn amrywio o naratifau eithaf soffistigedig i lyfrau lluniau gwych lle mae'r lluniau a'r testun yn cydweithio i annog plant i ystyried profiadau diwylliannol. Gwaetha'r modd, mae llawer o'r rhain heb eu cyfieithu i'r Gymraeg na'r Saesneg ac mae hynny'n golygu bod ein plant ni'n cael eu hamddifadu o lawer o'r cyfoeth llenyddol sydd ar gael i blant eraill yn Ewrop. Yn wir, mae'r Deyrnas Unedig ymhell ar ei hôl hi o ran cyfieithu llyfrau, o'i gymharu â gweddill Ewrop. Dim ond tuag 1% o'r llyfrau a gyhoeddir mewn blwyddyn sydd wedi'u cyfieithu o'r iaith wreiddiol i'r Saesneg. Yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, mae tua 35% o'r llyfrau a gyhoeddir yn gyfieithiadau ac yn Sbaen mae'r ffigur o gwmpas 44%. Mae prinder llenyddiaeth Ewropeaidd i blant yn y D.U. yn golygu nad oes gennym gyfieithiadau a fyddai'n hyrwyddo'r dimensiwn Ewropeaidd mewn ysgolion cynradd. Dyma pam y crewyd yr European Picture Book Collection, gyda chyllid gan y Comisiwn Ewropeaidd. Gobeithio y mwynhewch ddefnyddio'r casgliad. I gloi, dyma rai gweithgareddau y galIech eu defnyddio yn eich ystafell ddosbarth i godi ymwybyddiaeth o Ewrop: Gweithgareddau i Godi Ymwybyddiaeth o Ewrop Adran A: Adran B: Adran C: 2. Beth rydych chi wedi'i ddysgu am Ewrop yn y wers hon?
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'n holl gydweithwyr yng ngwledydd Ewrop sydd wedi gweithio mor galed ar y casgliad hwn. Sut bynnag y penderfynwch ei ddefnyddio, gobeithio y bydd y llyfrau yn rhoi dimensiwn Ewropeaidd i'ch ystafell ddosbarth ac y bydd y plant yn eu mwynhau ac yn cael eu hysgogi i gymryd diddordeb yn y pwnc. Os hoffech gysylltu ag athrawon neu addysgwyr athrawon sydd eisoes wedi defnyddio'r llyfrau hyn yn eu hysgolion, ceir rhestr o gyfeiriadau e-bost o dan Cysylltiadau EPBC. Ceir rhagor o weithgareddau ieithyddol a llenyddol yn ‘Picture Books sans Frontieres', a gyhoeddir gan Trentham Press (tb@trentham-books.co.uk ).
|
|||||||
|
The NCRCL website is hosted by Roehampton University ncrcl February 2005 |